Croeso i Bronllwyd Fawr
Gwyliau Hunanarlwyo ar Benrhyn Llŷn
Lleoliad perffaith i archwilio Llwybr Arfordir Llŷn
Mae llety hunanarlwyo Bronllwyd Fawr yn cynnig golygfeydd godidog a heddychlon mewn lleoliad cysgodol wrth droed Mynydd Rhiw ar Benrhyn Llŷn. Gyda’n gwybodaeth o’r ardal leol gallwn eich cynorthwyo i gynllunio’r gwyliau perffaith - p’un a’i fod yn arhosiad byr yn y gaeaf neu’n wyliau hirach yn yr haf.
Mae’r ffermdy hunanarlwyo hwn wedi ennill gradd 4 seren gan Croeso Cymru.
Saif y rhan hunangynhwysol hwn o’r ffermdy, â’i ardd fawr gaeedig, yng nghalon Penrhyn Llŷn, ac mae’n agos iawn at atyniadau gwyliau poblogaidd fel Abersoch, Pwllheli, Nefyn ac Aberdaron. Mae lle ar gyfer hyd at 6 o ymwelwyr.
Diolch am ymweld â’n gwefan, gobeithiwn i chi ddod o hyd i’r hyn roeddech chi’n chwilio amdano. Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Cynigion Arbennig
Cysylltwch â ni i gael manylion unrhyw un o’r Cynigion Arbennig sydd gennym ym mis Medi.